Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
  Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
 Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu
 Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
 Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
 Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

     

    


1 Mehefin 2000

Y Pwyllgor Cyllid: Ymgysylltu a Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru 2021-22

 

Annwyl Gadeiryddion y Pwyllgorau

Yn ein cyfarfod ar 21 Mai 2020, bu'r Pwyllgor Cyllid yn ystyried ei raglen ymgysylltu ar gyfer cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru sydd ar y gweill, ac rwy'n ysgrifennu at holl Gadeiryddion y pwyllgorau pwnc i rannu ein safbwyntiau.

Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, yng nghyd-destun y cyfyngiadau cymdeithasol presennol oherwydd Covid-19, ni allwn gynnal digwyddiad rhanddeiliaid fel yr ydym wedi'i wneud yn y gorffennol. Mae hyn yn siomedig iawn am ei fod yn cynnig cyfle gwerthfawr i glywed gan ein rhanddeiliad allweddol am eu meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei llunio.

Yn hytrach, eleni byddwn yn ymgymryd â mentrau ar-lein gan ddefnyddio Twitter i annog rhanddeiliaid a'r cyhoedd i gyflwyno eu safbwyntiau ynglŷn â blaenoriaethau gwariant. Byddwn yn gwerthfawrogi eich cymorth i hyrwyddo ein cwestiynau/holiaduron ar-lein drwy eich dulliau cyfathrebu chithau er mwyn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd ehangach ac ymgysylltu â hwy. Bydd hyn yn helpu’r Pwyllgor Cyllid i gyfrannu at gyflawni’r gwaith craffu mwyaf cydlynol ac effeithiol o gynlluniau gwariant y Llywodraeth yn ystod yr amgylchiadau digynsail hyn.  Byddwn yn rhannu canlyniad y gwaith ymgysylltu hwn â’ch Pwyllgorau i’ch helpu gyda’r gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft.

 

 

 

 

 

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i drefnu dadl, a gynigiwyd gan y Pwyllgor Cyllid, yn ystod wythnos olaf tymor yr haf ynglŷn â blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru. Gobeithiwn y gellir defnyddio’r wybodaeth a gesglir drwy ein gwaith ymgysylltu ar-lein i lywio’r ddadl ac y bydd ei chynnal cyn toriad yr haf yn cynnig digon o amser i Lywodraeth Cymru ystyried safbwyntiau’r Senedd wrth lunio ei chyllideb ddrafft. Bydd Covid-19 yn cael effaith ar wariant cyhoeddus am flynyddoedd i ddod a chredwn fod cynnal y ddadl hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y Senedd yn amlinellu’r hyn y mae'n credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ei gwariant arno dros y flwyddyn ariannol nesaf. Gobeithiwn y byddwch chi ac Aelodau o’ch Pwyllgorau yn manteisio ar y cyfle i gyfrannu at y ddadl bwysig hon.

Yn dilyn y ddadl, byddaf yn ysgrifennu atoch eto i nodi ffocws cyllidebol y Pwyllgor Cyllid, manylion yr ymgynghoriad, a'n hamserlen ar gyfer craffu ar y gyllideb.

Os oes gennych gwestiynau am unrhyw agwedd ar broses y gyllideb ddrafft, mae croeso i chi gysylltu â mi neu Bethan Davies, Clerc y Pwyllgor Cyllid, ar 0300 200 6372, neu seneddcyllid@senedd.cymru

 

Yn gywir

 

 

Llyr Gruffydd AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid

 

 

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.